-
Meistroli Techneg Canu'r Delyn - Kathryn Rees
- Llyfr Cymraeg
- £19.50
Safon: Canolraddol - Uwchraddol Telyn: Lefer neu Pedal
Mae techneg gadarn yn hollol sylfaenol i gynhyrchu tôn da ac alldaflu sain yn effeithiol. Mae angen ystyriaeth holistaidd gan ddechrau gyda sut i ddal y corff hyd at symudiad y bysedd.
Dechreuodd fy nhaith ar drywydd datblygu sylfaen technegol da yn hwyrach yn fy hyfforddiant. Ar y pryd roeddwn yn dechrau fy ngradd mewn conservatoire, a than y pwynt hynny doeddwn heb sylweddoli pwysigrwydd techneg gadarn. Felly, yn sydyn iawn, roeddwn ar gwrs gradd oedd yn mynnu ar yr egwyddorion sylfaenol hyn. O ganlyniad, sylweddolais yn eithaf cyflym bod y newidiadau yn fy chwarae yn trawsnewid fy sain a rhwyddineb fy mherfformio mewn ffordd ddramatig.
Un o fy mhrif amcanion fel athrawes yw bod fy myfyrwyr yn creu sain da. Sain llawn, sy’n alldaflu’n effeithiol. Yn ogystal â hyn, y nod yw eu bod yn chwarae heb ddal unrhyw densiwn di-angen. Y cynharaf mae’r arferion technegol hyn yn cael eu gweithredu, gorau oll. Er hyn, rwy’n gwybod o brofiad personol ei bod hi’n gwbl bosibl newid arferion yn hwyrach gyda digon o ddyfalbarhad a diwydrwydd. Dydy hi byth yn rhy hwyr!
Yn y llyfr hwn rwyf wedi cynnwys canllawiau hanfodion techneg da gydag ymarferion ac études i’ch helpu i weithio ar y sgiliau sylfaenol. Mae’r penodau sy’n dilyn yn canolbwyntio ar bynciau trafod gyda fy myfyrwyr dros y blynyddoedd, yn cynnwys sut i chwarae bisbigliando llyfn, harmoneg glir a chordiau llawn eu sain.
Blociau adeiladu sylfaenol eich chwarae yw’r sgiliau yn y llyfr hwn. Os y medrwch feistroli graddfeydd perffaith, arpeggios llyfn a.y.y.b. bydd yn trosglwyddo’n uniongyrchol i ansawdd eich sain a’ch perfformiad.